"Mae menywod yn dal yr allwedd i Ddyfodol yr Amgylchedd" - Wangari Maathai | |
Enghraifft o'r canlynol | effeithiau newid hinsawdd |
---|
Mae newid hinsawdd a rhyw pobl yn ffordd o ddehongli effeithiau newid hinsawdd ar ddynion a menywod, yn seiliedig ar sut mae cymdeithas yn gwahaniaethu rhwng dynion a menywod.
Mae newid hinsawdd yn cynyddu anghydraddoldeb rhwng y rhywiau,[1] ac yn lleihau gallu menywod i fod yn ariannol annibynnol, mae hefyd yn cael effaith negyddol ar hawliau cymdeithasol a gwleidyddol menywod, yn enwedig mewn economïau sydd wedi'u seilio'n helaeth ar amaethyddiaeth. Mewn llawer o achosion, mae anghydraddoldeb rhyw yn golygu bod menywod yn fwy agored i effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd.[2] Mae hyn oherwydd rolau rhyw, yn enwedig yn y byd sy'n datblygu, sy'n golygu bod menywod yn aml yn ddibynnol ar yr amgylchedd naturiol ar gyfer cynhaliaeth ac incwm. Trwy gyfyngu ymhellach ar fynediad menywod sydd eisoes wedi'u cyfyngu'n gymdeithasol, gwleidyddol a chyllidol, mae newid hinsawdd yn rhoi baich trymach ar fenywod yn fwy na dynion a chaiff yr anghydraddoldeb rhywiol presennol ei chwyddo.[3][4]
Mae gwahaniaethau ar sail rhyw hefyd wedi'u nodi mewn perthynas ag ymwybyddiaeth (awareness) ac ymateb i newid hinsawdd, a datblygodd llawer o wledydd eu strategaethau newid hinsawdd a chynlluniau gweithredu ar sail rhywedd. Er enghraifft, mabwysiadodd llywodraeth Mosambic Strategaeth a Chynllun Gweithredu Rhyw, yr Amgylchedd a Newid Hinsawdd yn gynnar yn 2010, sef y llywodraeth gyntaf yn y byd i wneud hynny.[5]
O fewn newid hinsawdd cymhwysir system ddadansoddol ddeuaidd dynion / menywod ar setiau o ddata meintiol, ac ystyried sut mae rhyw, fel ffactor cymdeithasol yn dylanwadu ar ymatebion i newid hinsawdd, a sut mae'n croestorri gyda newidynnau eraill fel oedran, cast, statws priodasol, ac ethnigrwydd.[6]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search